Anelwyd y defnydd yn bennaf at Weithgynhyrchu
Amaethyddol, Dyfrmaethu, Rheolaeth Amgylcheddol, a Rheoli
Pysgodfeydd, a datblygwyd y defnydd gyda mewnbwn sylweddol
gan y Grw^p Rheolaeth Prosiect PP4SD gwreiddiol. Dros
gyfnod o ddeunaw mis ymwelodd tîm PP4SD Prifysgol
Abertawe â mwy na chant o fentrau bach a chanolig
eu maint ar hyd a lled Cymru i gasglu enghreifftiau
o ymarfer da ac i glywed am y sialensiau sydd yn wynebu
busnesau bychan. Ymgorfforwyd yr wybodaeth hon yn y
defnydd, ynglyn â mewnbwn gan weithwyr proffesiynol
mewn addysg bellach ac addysg uwch a gan gyrff diwydiant
fel Lantra. Yna arbrofwyd y deunydd gyda pob un o’r
pedwar sector cyn ysgrifennu’r fersiwn hwn.
Mae’r cysylltiau ar y dudalen hon
yn cysylltu â phedair tudalen, un i pob sector,
gyda set gyflawn o’r defnydd hyfforddiant, yn
y Gymraeg a Saesneg, i’w lawrlwytho. Cynlluniwyd
y defnydd yn gefn i sesiynau hyfforddi grwpiau. Ond,
er mwyn i unigolion wneud yn fawr o’r deunydd,
mae gweithlyfr ar gael ym mhob sector i hwyluso dysgu
ar eich pen eich hun. Cliciwch
yma i weld map defnyddiau sydd yn dangos trefn y
defnyddiau a sut y gellir defnyddio’r gweithlyfr
gyda’r astudiaethau achos a’r adnoddau.
Gellir cael y defnyddiau ar CD wrth e-bostio pp4sdinfo@swansea.ac.uk,
lle gallwch hefyd ofyn am gopi caled o’r gweithlyfr.
|