Prosiect PP4SD Prifysgol Abertawe
ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint
Datblygwyd y defnyddiau isod gyda chymorth cyrff diwydiant
a mentrau bach a chanolig eu maint yn y sector, yn cynnwys
pysgodfa Dôl-Haidd Isaf, pysgodfa Springwater
Lakes a pysgodfa fras White Springs, a gyfranasant yr
astudiaethau achos. Dyluniwyd y defnyddiau i fod yn
ddefnyddiol i hwyluswyr digwyddiadau hyfforddiant a’u
cyfranogion. Maent yn cynnwys gwybodaeth manwl a chysylltiau
at ffynonellau eraill, a gallent fod o ddiddordeb felly
i unrhyw ddefnyddiwr. Rhoddid cyfarwyddyd yn Llawlyfr
yr Hwylusydd i alluogi hwyluswyr i addasu eu hyfforddiant
os dymunent i sefyllfa eu grwp penodol ac i sicrhau
bod ei gynnwys yn amserol ac yn atyniadol. Bwriedir
y Gweithlyfr ar gyfer dysgu ar eich pen eich hun. Dengys
y map
defnyddiau yma drefn y defnyddiau, a’ch arwain
at y rhai mwyaf defnyddiol i’ch anghenion hyfforddiant
arbenigol.
Cynlluniwyd y defnyddiau i ddylanwadu
ar arferion busnes trwy alluogi cyfranogion i gyflawni’r
amcanion canlynol:
• Gwella eu hymwybyddiaeth o’r
egwyddorion sy’n sail i ddatblygiad cynaliadwy,
a’u dealltwriaeth ohonynt
• Adnabod y pwysau o blaid newid yn eu diwydiant
• Cydnabod y buddion sy’n dod o gymhwyso
datblygiad cynaliadwy at eu menter
• Cymhwyso syniadaeth systemau at un fenter
neu glwstwr ohonynt, gan bwysleisio manteision y dynesiad
systemau
• Datblygu cynllun gweithredu busnes o blaid
cynaladwyedd
|