Prosiect PP4SD Prifysgol Abertawe
ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint
Datblygwyd y defnyddiau isod gyda chymorth cyrff diwydiant
a mentrau bach a chanolig eu maint yn y sector, yn cynnwys
ffermydd wystrys a misglod yn Ardal Cadwraeth Arbennig
Y Fenai a Bae Conwy, Fferm Brithyllod Llanandras a Cymdeithas
Brithyllod Prydain, a gyfranasant yr astudiaethau achos.
Dyluniwyd y defnyddiau i fod yn ddefnyddiol i hwyluswyr
digwyddiadau hyfforddiant a’u cyfranogion. Maent
yn cynnwys gwybodaeth manwl a chysylltiau at ffynonellau
eraill, a gallent fod o ddiddordeb felly i unrhyw ddefnyddiwr.
Rhoddid cyfarwyddyd yn Llawlyfr yr Hwylusydd i alluogi
hwyluswyr i addasu eu hyfforddiant os dymunent i sefyllfa
eu grwp penodol ac i sicrhau bod ei gynnwys yn amserol
ac yn atyniadol. Bwriedir y Gweithlyfr ar gyfer dysgu
ar eich pen eich hun. Dengys y map defnyddiau
yma drefn y defnyddiau, a’ch arwain at y rhai
mwyaf defnyddiol i’ch anghenion hyfforddiant arbenigol.
Cynlluniwyd y defnyddiau i ddylanwadu
ar arferion busnes trwy alluogi cyfranogion i gyflawni’r
amcanion canlynol:
• Gwella eu hymwybyddiaeth o’r
egwyddorion sy’n sail i ddatblygiad cynaliadwy,
a’u dealltwriaeth ohonynt
• Adnabod y pwysau o blaid newid yn eu diwydiant
• Cydnabod y buddion sy’n dod o gymhwyso
datblygiad cynaliadwy at eu menter
• Cymhwyso syniadaeth systemau at un fenter
neu glwstwr ohonynt, gan bwysleisio manteision y dynesiad
systemau
• Datblygu cynllun gweithredu busnes o blaid
cynaladwyedd
|