Prosiect PP4SD Prifysgol Abertawe
ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint
Datblygwyd y defnyddiau isod gyda chymorth cyrff diwydiant
a mentrau bach a chanolig eu maint yn y sector, yn cynnwys
Stuart Fry – adeiladwr waliau sychion, Fferm y
Fan, The Real Seed Collection Ltd a Fferm Laeth Ty Tanglwyst,
a gyfranasant yr astudiaethau achos. Dyluniwyd y defnyddiau
i fod yn ddefnyddiol i hwyluswyr digwyddiadau hyfforddiant
a’u cyfranogion. Maent yn cynnwys gwybodaeth manwl
a chysylltiau at ffynonellau eraill, a gallent fod o
ddiddordeb felly i unrhyw ddefnyddiwr. Rhoddid cyfarwyddyd
yn Llawlyfr yr Hwylusydd i alluogi hwyluswyr i addasu
eu hyfforddiant os dymunent i sefyllfa eu grwp penodol
ac i sicrhau bod ei gynnwys yn amserol ac yn atyniadol.
Bwriedir y Gweithlyfr ar gyfer dysgu ar eich pen eich
hun. Dengys y map
defnyddiau yma drefn y defnyddiau, a’ch arwain
at y rhai mwyaf defnyddiol i’ch anghenion hyfforddiant
arbenigol.
Cynlluniwyd y defnyddiau i ddylanwadu
ar arferion busnes trwy alluogi cyfranogion i gyflawni’r
amcanion canlynol:
• Gwella eu hymwybyddiaeth o’r
egwyddorion sy’n sail i ddatblygiad cynaliadwy,
a’u dealltwriaeth ohonynt
• Adnabod y pwysau o blaid newid yn eu diwydiant
• Cydnabod y buddion sy’n dod o gymhwyso
datblygiad cynaliadwy at eu menter
• Cymhwyso syniadaeth systemau at un fenter
neu glwstwr ohonynt, gan bwysleisio manteision y dynesiad
systemau
• Datblygu cynllun gweithredu busnes o blaid
cynaladwyedd
|