pp4sd - professional practice for sustainable development  
IntroductionEventsNewsDownloadsEnquiryLinks PP4SD SwanseaWales PP4SD Project  

 

 

English >

 

Prosiect PP4SD Cymru

 

Hyfforddiant mewn Gweithgynhyrchu Amaethyddol ar gyfer y Dyfodol
Hyfforddiant mewn Datblygiad Cynaliadwy ar gyfer y Sector Gweithgynhyrchu Amaethyddol

 

 

Prosiect PP4SD Prifysgol Abertawe ar gyfer mentrau bach a chanolig eu maint
Datblygwyd y defnyddiau isod gyda chymorth cyrff diwydiant a mentrau bach a chanolig eu maint yn y sector, yn cynnwys ARC Fabrication a Birch Farm Plastic Collection Ltd, a gyfranasant yr astudiaethau achos. Dyluniwyd y defnydd i fod yn ddefnyddiol i hwyluswyr digwyddiadau hyfforddiant a’u cyfranogion. Maent yn cynnwys gwybodaeth manwl a chysylltiau at ffynonellau eraill, a gallent fod o ddiddordeb felly i unrhyw ddefnyddiwr. Rhoddid cyfarwyddyd yn Llawlyfr yr Hwylusydd i alluogi hwyluswyr i addasu eu hyfforddiant os dymunent i sefyllfa eu grwp penodol ac i sicrhau bod ei gynnwys yn amserol ac yn atyniadol. Bwriedir y Gweithlyfr ar gyfer dysgu ar eich pen eich hun. Dengys y map defnyddiau yma drefn y defnyddiau, a’ch arwain at y rhai mwyaf defnyddiol i’ch anghenion hyfforddiant arbenigol.

Cynlluniwyd y defnyddiau i ddylanwadu ar arferion busnes trwy alluogi cyfranogion i gyflawni’r amcanion canlynol:

• Gwella eu hymwybyddiaeth o’r egwyddorion sy’n sail i ddatblygiad cynaliadwy, a’u dealltwriaeth ohonynt
• Adnabod y pwysau o blaid newid yn eu diwydiant
• Cydnabod y buddion sy’n dod o gymhwyso datblygiad cynaliadwy at eu menter
• Cymhwyso syniadaeth systemau at un fenter neu glwstwr ohonynt, gan bwysleisio manteision y dynesiad systemau
• Datblygu cynllun gweithredu busnes o blaid cynaladwyedd



Y defnyddiau Gweithgynhyrchu Amaethyddol fel lawrlwythiadau

Llawlyfr yr Hwylusydd

Defnyddiau rhagbaratoadol i’w darllen cyn y cwrs

Cyflwyniad Tryloywluniau

Defnyddiau ychwanegol

Adnoddau

Astudiaethau achos - ARC Fabrications

Astudiaethau achos - Birch Farm

Tryloywluniau amgen

Gweithlyfr

 

 

Contact Us | © PP4SD |

< home

Website designed & hosted by WiSS ltd © 2009